gweithgareddau awyr agored
Cerdded
Mae Prestatyn yn adnabyddus am ei deithiau cerdded hardd gydag amgylchoedd godidog ac achrediad 'Croeso i Gerddwyr'. Prestatyn hefyd yw dechrau neu ddiwedd llwybr Clawdd Offa i'r cerddwyr mwy brwd yn eich plith.
Er mwyn helpu trigolion ac ymwelwyr i wneud y gorau o'r gwahanol deithiau cerdded gallwch ymuno â chynllun cerdded cymdeithasol 'You'll Never Walk Alone' sy'n gwbl rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un ymuno ynddo. Gyda theithiau cerdded sy'n addas i bob oedran a gallu dan arweiniad Arweinwyr Teithiau Cerdded gwirfoddol hyfforddedig, lle gallwch ddechrau'n araf a datblygu'n ysgafn i deithiau cerdded anoddach.
Mae arweinwyr blaen ac ôl i arwain cerddwyr, gan eu hannog i gerdded ar eu cyflymder eu hunain. Mae llawer o gyfleoedd i sgwrsio, cymryd y golygfeydd, darganfod mwy am eich ardal leol a gwneud ffrindiau newydd gyda dros 87% o bobl yn ymuno â'r teithiau cerdded i fwynhau'r elfen gymdeithasol y gall y cynllun ei chynnig.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Tref Prestatyn 01745 857185