E-bost: marketingteam@wales.coop
Helo Rydym yn gyffrous i'ch gwahodd i'r cwrs ar-lein Dechrau Rhywbeth Da am bedair wythnos. Bydd un ar gyfer pobl yng Ngogledd Cymru, ac un arall ar gyfer pobl yn Ne Cymru sydd am ddatblygu sylfeini cychwyn menter gymdeithasol. Beth bynnag fo'r effaith gymdeithasol rydych chi'n edrych i'w chreu, os oes gennych weledigaeth ar gyfer newid, bydd y cwrs byr hwn yn ffordd berffaith o roi eich syniad ar waith. Beth fydd y cwrs yn ei gynnwys? • Cyfle i gwrdd ag eraill ar-lein sydd am greu newid cymdeithasol. • Ffocws ar elw i'r diben, pobl a'r blaned. • Dysgu am rannau hanfodol menter gymdeithasol. • Canfod pa gymorth sydd ar gael i fentrau cymdeithasol newydd gan Busnes Cymdeithasol Cymru Dechrau Newydd ac asiantaethau cymorth eraill. • Rhwydweithio gydag entrepreneuriaid cymdeithasol sydd wedi sefydlu mentrau cymdeithasol llwyddiannus. Bydd y cwrs yn cael ei arwain gan Prith Biant a Chynghorwyr Busnes o raglen Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru. Mae Prith Biant yn artist ac yn Hwylusydd Creadigol gyda dros 15 mlynedd o brofiad mewn busnes. Mae ganddi radd mewn Astudiaethau Cyfathrebu, a Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg. Mae'n rhedeg ei hymgynghoriad creadigol ei hun ac mae wedi sefydlu menter gymdeithasol o'r blaen i gefnogi menywod i adennill eu hyder a'u hannibyniaeth ar ôl profi trais yn y cartref. Bydd Prith yn ymuno bob wythnos gyda Chynghorydd Busnes o'ch ardal a detholiad o siaradwyr gwadd yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â marketingteam@wales.coop. Edrychwn ymlaen at eich gweld.